Arestio dyn dan amheuaeth o geisio llofruddio cerddwr

Ffordd Manmoel Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Manmoel toc wedi 18:00 ddydd Sul

Mae dyn wedi cael ei arestio dan amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i gerddwr gael ei saethu yn ei goes ddydd Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i heol wledig Ffordd Manmoel toc wedi 18:00 ar 18 Tachwedd.

Roedd dyn, a fu'n cerdded ei gi yn yr ardal, wedi cael anafiadau difrifol i'w goes.

Mae dyn 50 oed o ardal Cefn Golau yn Nhredegar wedi ei arestio dan amheuaeth o geisio llofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa .

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw, wrth i'r ymchwiliad barhau.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol