Marwolaeth siop sglodion: Cyhuddo dyn 70 oed

Mavis Bran Image copyright Heno
Image caption Bu farw Mavis Bran chwe diwrnod wedi iddi gael llosgiadau yn y siop sglodion

Mae Geoffrey Bran, 70 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ei wraig mewn siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Mavis Bran, 69 oed, yn Ysbyty Treforys ar 29 Hydref, yn dilyn digwyddiad yn y siop yn Hermon ar 23 Hydref.

Cafodd Mr Bran ei arestio ar y 23 Hydref a'i rhyddhau ar fechnïaeth, ond fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ei ail-arestio a'i gyhuddo o lofruddiaeth ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd cwest i farwolaeth Ms Bran ei agor a'i ohirio yn Llanelli ar 5 Tachwedd er mwyn i'r ymchwiliad barhau.

Mae disgwyl i Mr Bran ymddangos gerbron Llys y Goron Llanelli ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol