Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-4 Norwich City

Emiliano Buendía Image copyright Getty Images

Roedd buddugoliaeth o 4-1 yn Stadiwm Liberty yn ddigon i gadw Norwich ar frig y tabl wedi prynhawn siomedig i Abertawe.

Roedd Norwich yn chwilio am eu chweched buddugoliaeth yn olynol, ond y tîm cartref oedd yn edrych orau yn gynnar yn y gêm wrth i Bersant Celina a Daniel James brofi'r golwr o ymyl y cwrt cosbi.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 16 munud ar ôl i'r amddiffynnwr canol, Mike van der Hoorn, rwydo i'w gôl ei hun o groesiad Teemu Pukki.

Deg munud yn ddiweddarach fe ddyblwyd mantais y Canaries gan Emiliano Buendía. Ar ôl cipio'r bel gan Celina ar ymyl y cwrt cosbi, fe grymanodd Buendia y bêl heibio Mulder i gornel chwith y rhwyd.

Marco Stiepermann sgoriodd y drydedd wedi gwaith taclus lawr yr asgell dde gan Pukki ac Aarons.

Fe wnaeth yr Elyrch daro 'nol cyn hanner amser drwy James, ar ôl i ergyd Naughton gael ei wyro i gyfeiriad yr ymosodwr ifanc.

Ychwanegodd Pukki bedwaredd i'r ymwelwyr gyda 61 munud ar y cloc i goroni'r fuddugoliaeth.

Mae'r golled yn golygu bod yr Elyrch yn disgyn i'r nawfed safle yn y tabl.

Straeon perthnasol