Adran 2: Cheltenham 2-1 Casnewydd

Will Boyle Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi disgyn i'r pumed safle yn Adran 2 wedi colled annisgwyl yn erbyn Cheltenham Town.

Aeth y tîm cartref, sy'n 22 yn y tabl, ar y blaen diolch i beniad gan William Boyle a hedfanodd i gornel uchaf y rhwyd wedi 18 munud.

Munud cyn hanner amser fe lwyddodd Tyrone Barnett i ddyblu mantais y tîm cartref ar ôl i Joe Day, golwr Casnewydd, wyro'r bel i'w gyfeiriad wedi ergyd gadarn gan Chris Hussey.

Gyda phum munud yn weddill fe enillodd Padraig Amond gic o'r smotyn i Gasnewydd, ond fe lusgodd Mickey Demetriou ei ergyd heibio'r postyn dde.

Doedd gôl hwyr gan Antoine Semenyo ddim yn ddigon i achub pwynt i'r Alltudion.

Straeon perthnasol