Dyn o Gaerdydd yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth

Ymchwiliad Llofruddiaeth Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Dyw Mohamed Megherbi heb gael ei weld ers 9 Hydref

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio Mohamed Megherbi o Algeria.

Wrth ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn, ni wnaeth Kane Burns, 26 oed o Gaerdydd, gyflwyno ple.

Does neb wedi gweld Mr Megherbi, 24, ers dydd Mawrth, 9 Hydref pan gafodd ei weld yn ardal y Rhath.

Mae Heddlu De Cymru bellach wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth Mr Megherbi ar ôl diffyg tystiolaeth ei fod yn fyw.

Bydd Mr Burns yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun.

Straeon perthnasol