Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Manw'n cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision

23 Tachwedd 2018 Diweddarwyd 20:54 GMT

Mae Manw, sy'n wreiddiol o Rosgadfan ger Caernarfon, yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y Junior Eurovision yn Belarus ddydd Sul, 25 Tachwedd.

Mae'r ferch 14 oed wedi teithio i Minsk i gystadlu gyda'r gân Perta ond cafodd rhaglen Ffeil gyfle i'w holi cyn iddi fynd.

Cafodd Manw ei dewis ar ôl ennill cyfres Chwilio am Seren ar S4C.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest.

Bydd Junior Eurovison: Y Ffeinal yn cael ei ddarlledu am 1500 ar S4C ddydd Sul.

Pob lwc Manw!