'Carreg filltir' cynllun i waredu peilonau yng Ngwynedd

Peilon Image copyright Google
Image caption Mae hi'n bosib na chaiff y gwaith ei gwblhau tan 2024, yn ôl y Grid Cenedlaethol

Mae cynlluniau i gael gwared â 10 peilon a cheblau trydan o aber Afon Dwyryd wedi cyrraedd "carreg filltir bwysig", yn ôl ymgyrchwyr.

Yn 2104, fe gyhoeddodd y Grid Cenedlaethol eu bod nhw eisiau claddu'r ceblau ger Penrhyndeudraeth ar ôl i astudiaeth honni eu bod yn cael effaith "ddramatig" ar dirwedd yr ardal.

Cafodd yr olaf o dri chyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Nhalsarnau, Gwynedd ddydd Sadwrn er mwyn arddangos y cynlluniau.

Byddai'r gwaith yn rhan o gynllun ehangach i drosglwyddo pŵer o Ynys Môn i'r tir mawr.

Dywedodd Chris Baines, cadeirydd grŵp cynghori rhanddeiliaid cenedlaethol ac annibynnol y prosiect Visual Impact Provision, fod y cyfarfodydd hyn yn "garreg filltir bwysig arall i'r prosiect".

"Cafodd Eryri ei dewis i ddechrau oherwydd arwyddocâd y dirwedd yn genedlaethol, a nodweddion ysblennydd aber hyfryd afon Dwyryd yn benodol.

"Rydym yn edrych ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol at wella tirwedd y Parc Cenedlaethol," meddai.

Cafodd y peilonau eu hadeiladu yn wreiddiol yn 1966.

Fel rhan o gynlluniau ehangach y Grid Cenedlaethol, gwerth £500m, bydd peilonau yn cael eu gwaredu o 65 ardal ar hyd Prydain.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol