Pedwar dyn wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiad ger Abertawe

Ffordd Gellyfowy Image copyright Google

Mae pedwar dyn wedi cael eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau all beryglu bywyd wedi gwrthdrawiad ger Abertawe.

Fe wrthdarodd y car â choeden ar Ffordd Gellyfowy, Pontardawe am 12:45 ddydd Sadwrn.

Cafodd y gyrrwr a'r tri pherson arall eu hanafu yn ddifrifol, gan dderbyn anafiadau all newid eu bywydau.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig