Apêl am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ger Blaenporth

Yr A487 ger Blaenporth Image copyright Google

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yng Ngheredigion ddydd Sadwrn.

Bu farw dyn 90 oed ar ôl cael ei daro gan gerbyd oedd yn teithio i gyfeiriad Tanygroes.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A487 ger Blaenporth am tua 14:45.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig