Cyn-amddiffynnwr Abertawe wedi marw yn 45 oed

Kevin Austin Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Kevin Austin yn chwarae dros Abertawe yn 2008

Mae cyn-chwaraewr Abertawe a Trinidad a Tobago, Kevin Austin, wedi marw yn 45 oed.

Chwaraeodd Austin 150 o weithiau i'r Elyrch fel amddiffynnwr canol rhwng 2004 a 2008, yn ogystal ag ennill saith cap i'w wlad.

Fe enillodd Austin ddyrchafiad gydag Abertawe dwywaith yn ystod ei gyfnod â'r clwb - o Adran 2 yn 2005 ac o Adran 1 yn 2008.

Cafodd wybod bod ganddo ganser y pancreas yn 2017.