Teulu yn 'dorcalonnus' wedi gwrthdrawiad Caerdydd

Ronald Triggs Image copyright Llun teulu
Image caption Roedd Ronald Triggs yn 71 oed

Dywedodd teulu'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar Colchester Avenue yng Nghaerdydd eu bod "yn dorcalonnus".

Bu farw Ronald Triggs, 71 oed, wedi i'w feic wrthdaro â fan oddeutu 13.30 brynhawn Sadwrn.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu: "Mae'r teulu cyfan wedi torri eu calon wrth iddynt ddod i delerau â damwain sydd wedi cipio oddi arnynt ŵr i Pamela, tad i Neil a thad-cu i'w wyrion."

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddamwain yn cael ei hannog i gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.

Mae plismyn hefyd yn awyddus i unrhyw sydd â lluniau o'r ddamwain ar gamerâu cylch cyfyng i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol