Ymestyn prif gymhorthdal ffermwyr am flwyddyn

Ffermwr a gwartheg Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y newidiadau i fod i ddigwydd yn 2020

Mae'r prif gymhorthdal y mae ffermwyr yn ei dderbyn yn mynd i barhau am flwyddyn ychwanegol, medd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig.

Roedd y taliadau yn eu ffurf bresennol i fod i ddiflannu yn raddol o 2020 ymlaen.

Ond cafwyd ymateb chwyrn i hynny gan undebau amaeth, oedd yn rhybuddio y gallai newid beryglu dyfodol y diwydiant.

Dywedodd Lesley Griffiths y byddai'r estyniad yn sicrhau bod gan ffermydd ddigon o amser i baratoi ac addasu at ffordd newydd o weithio.

Image caption Ym mis Gorffennaf dywedodd Lesley Griffiths bod rhaid cael newid

Mewn araith ar ddechrau'r Ffair Aeaf flynyddol yn Llanelwedd fe fydd Ms Griffiths yn pwysleisio hefyd na fydd y ffyrdd presennol o ariannu amaeth yn dod i ben cyn bod cynlluniau newydd yn barod.

Mae'n dilyn "ymateb gwych" i ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â newid y ffordd mae amaeth a chefn gwlad yn cael eu hariannu ar ôl Brexit.

"Dwi'n sylweddoli bod hwn yn newid mawr i'r sector yn ystod cyfnod ansicr," meddai Ms Griffiths.

"Mae'r cyfnod pontio yn hynod bwysig a dyma pam yr wyf heddiw [ddydd Llun] yn cyhoeddi'r Cynllun Taliad Sylfaenol (CTS) fydd yn parhau heb newid am flwyddyn arall yn 2020 i roi sicrwydd ac i helpu ffermwyr newid yn ddidrafferth i'r Rhaglen Rheoli Tir Newydd."

£350m y flwyddyn

Mae cymorthdaliadau o'r Undeb Ewropeaidd - cyfanswm o thua £350m y flwyddyn - yn cyfrannu dros 80% o incwm fferm yng Nghymru ar gyfartaledd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dau gynllun newydd yn lle'r taliadau o Frwsel.

Bydd un yn cynnig grantiau busnes, a'r llall yn gwobrwyo ffermwyr am waith i helpu'r amgylchedd a gwarchod tirlun a golygfeydd y wlad.

Ond mae'n golygu diwedd i'r taliadau CTS, sy'n dod yn uniongyrchol i ffermydd ar sail faint o dir sydd yn eu gofal.

Yn ôl Ms Griffiths mae'r cymhorthdal hwnnw wedi gwneud amaethwyr yn anghystadleuol, ond mae arweinwyr y diwydiant yn dweud y gallai cael gwared arno ddifetha'r sector.

Brexit di-gytundeb yn 'drychineb'

Mewn llythyr ar y cyd at aelodau cynulliad mae NFU Cymru a Chymdeithas Prosesu Cig Prydain (BMPA) yn honni bod goblygiadau mawr i ffermydd teuluol, y sector prosesu bwyd a chefn gwlad yn gyffredinol.

"Mae'r diwydiant yn wynebu ansicrwydd enfawr ar hyn o bryd, ac yn hynny o beth fe fyddwn ni'n ymbil ar y llywodraeth i oedi a sicrhau asesiad effaith trylwyr o oblygiadau hirdymor eu penderfyniad i gael gwared ar y cymhorthdal yma," medd y llythyr.

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Lesley Griffiths y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn "drychinebus" i'r diwydiannau amaeth a bwyd

Dywedodd Ms Griffiths fore Llun ei bod yn bosib mai cytundeb Brexit Mrs May yw'r "cytundeb gorau ry'n ni am ei gael".

Fe wnaeth hi bwysleisio y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn "drychinebus" i'r diwydiannau amaeth a bwyd.

Mae undeb NFU Cymru wedi disgrifio'r cytundeb drafft fel "cyfle sy'n rhaid ei gymryd".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol