Athrawes wedi'i chanfod yn ddiogel yng Nghaerfyrddin

elin boyle Image copyright Heddlu'r De

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dynes yr oeddynt yn poeni amdani wedi'i chanfod yn ddiogel yng Nghaerfyrddin.

Yn gynharach roedd yna bryderon am les Elin Boyle sy'n athrawes yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd.

Nos Sul cadarnhaodd Heddlu'r De bod Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i Ms Boyle, sy'n 43 oed, yng Nghaerfyrddin.