Teyrnged i ddyn 90 oed wedi gwrthdrawiad Blaenporth

Barrie John Taylor Image copyright Llun teulu
Image caption Mae teulu Barrie John Taylor wedi ei ddisgrifio fel dyn "poblogaidd ac uchel ei barch"

Mae teulu dyn 90 oed wedi rhoi teyrnged yn dilyn ei farwolaeth mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion ddydd Sadwrn.

Cafodd Barrie John Taylor, oedd o Flaenporth, ei daro gan gar ar yr A487 ym Mlaenporth, ger Aberteifi.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Hoffem ddiolch i bawb, yn enwedig y gymuned leol a chymdogion am eu help a'u cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Roedd Barrie'n boblogaidd ac yn uchel ei barch yn y gymuned a bydd pawb yn gweld ei eisiau."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd oddeutu 14:45 ar 24 Tachwedd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol