Gŵr i wynebu achos llofruddiaeth siop sglodion Hermon

Geoffrey Bran Image copyright Heno
Image caption Ymddangosodd Geoffrey Bran yn Llys y Goron Abertawe drwy linc fideo o garchar Abertawe

Bydd dyn sydd wedi ei gyhuddo o ladd ei wraig, gafodd losgiadau difrifol wedi digwyddiad mewn siop sglodion, yn wynebu achos llys ym mis Mai.

Ymddangosodd Geoffrey Bran, 70 oed, yn Llys y Goron Abertawe brynhawn Mawrth wedi ei gyhuddo o lofruddio Mavis Bran, 69.

Mae Mr Bran wedi ei gyhuddo o achosi llosgiadau angheuol ei wraig yn dilyn digwyddiad yn eu siop sglodion yn Hermon, Sir Gaerfyrddin ar 23 Hydref.

Bu farw Mrs Bran chwe diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Treforys.

Cafodd Mr Bran ei arestio'n wreiddiol ar amheuaeth o ymosod, cyn cael ei ail-arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Image copyright Athena Pictures
Image caption Cafodd Mavis Bran ei llosgi yn y siop sglodion roedd hi'n ei berchen ger ei chartref Hermon

Siaradodd Mr Bran drwy linc fideo o garchar Abertawe i gadarnhau ei fanylion personol yn unig.

Dywedodd Rachel Knight, ar ran yr erlyniad, bod yr heddlu'n dal i gasglu tystiolaeth a byddai arbenigwyr yn cael eu galw i ganfod achos marwolaeth a dadansoddi natur llosgiadau Mrs Bran.

Cafodd Mr Bran ei gadw yn y ddalfa.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol