'Argyfwng' colli 28,000 o swyddi cyngor ers 2010

Council services
Image caption Awdurdodau lleol sy'n ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal, casglu sbwriel a pheth trafnidiaeth leol

Mae cynghorau Cymru wedi dileu 28,100 o swyddi cyhoeddus dros yr wyth mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau sydd wedi'u casglu gan undeb Unsain.

Maen nhw'n dweud y cafodd y swyddi eu colli ar raddfa debyg i'r nifer a gollwyd yn y diwydiant glo wedi streic y glowyr yn y 1980au.

Dywedodd yr undeb fod cynghorau wedi colli "byddin o lyfrgellwyr, gweithwyr ieuenctid a staff cynorthwyol ysgolion", gan osod y bai ar bolisi llymder Llywodraeth y DU.

Yn ôl llefarydd ar ran y Trysorlys, mater i Lywodraeth Cymru oedd cyllido lleol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynnig "y setliad gorau posib yn nawfed flwyddyn llymder" i lywodraeth leol.

Mae Unsain yn cydnabod fod gwariant cynghorau yn uwch nag oedd yn 2010, ond mae'r undeb yn dadlau nad yw'r gwariant wedi cadw'n unol â chwyddiant.

Wrth ddadansoddi'r gwasanaethau sy'n cael eu gwneud gan gynghorau, mae Unsain yn honni ers 2009-10 yng Nghymru fod:

  • Gwariant ar gynllunio a rheoleiddio wedi mwy na haneru;
  • Cyllidebau llyfrgelloedd wedi cael eu cwtogi o draean;
  • Gwariant ar ffyrdd a thrafnidiaeth wedi cael ei gwtogi o chwarter;
  • Gwasanaethau cymdeithasol yw'r unig adrannau sydd heb weld toriadau gwario.

Mae Unsain hefyd yn honni fod nifer y swyddi cyhoeddus sydd wedi'u colli gyfystyr â gweithluoedd Cwmni Dur Tata, Admiral, Airbus, Trafnidiaeth dros Gymru, Brains a Chymdeithas Adeiladu'r Principality oll gyda'i gilydd.

Am bob chwe swydd cyngor yn 2010, pump sydd yna bellach, ac mae dros 1,000 o swyddi mewn 15 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi diflannu.

Image copyright Popartic/Getty Images
Image caption Mae Unsain yn dweud fod cynghorau Cymru wedi colli "byddin o lyfrgellwyr"

Ar draws y sector cyhoeddus yn gyfan, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu gostyngiad o 33,000 o swyddi rhwng Mehefin 2010 a Mehefin 2018.

O fewn llywodraeth leol, mae ffigyrau'r SYG, sy'n cael eu casglu'r chwarterol gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn dweud bod nifer y gweithwyr wedi disgyn o 164,600 yn 2010 i 136,500 yn 2018.

Dywedodd Unsain nad yw hynny'n cynnwys gweithwyr cyngor sydd wedi colli'u gwaith i asiantaethau allanol dros y cyfnod yna, ond yn fwy diweddar mae tuedd tuag at ddod â gwaith yn ôl o dan adain y cynghorau.

'Sefyllfa o argyfwng'

Dywedodd pennaeth llywodraeth leol Unsain, Bethan Thomas: "Pe byddai 28,000 o swyddi yn y sector preifat o dan fygythiad, fe fyddai llywodraethau yn gwneud popeth i ofyn i fusnesau 'sut fedrwn ni helpu?'.

"Fe fyddai addewidion am fuddsoddiad a thasglu arbennig yn cael ei sefydlu.

"Rydym mewn sefyllfa o argyfwng. Dim ond oherwydd ymroddiad gweithwyr cyngor sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau y mae ein gwasanaethau lleol yn gweithio o gwbl.

"Does dim lle i fwy o doriadau yn ein gwasanaethau cyhoeddus."

Mae Unsain yn galw am atal rhaglen llymder Llywodraeth y DU, a mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Mae'r undeb hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu drwy gyflwyno setliadau grant bob tair blynedd, dod â chyllidebau cynghorau yn ôl i lefelau 2013-14 ac i weithio gyda chynghorau i ryddhau ffynonellau refeniw sy'n bodoli'n barod.

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ceisio cynnig i lywodraeth leol y setliad gorau posib yn y nawfed flwyddyn o lymder ac yn wyneb toriad o £850m i'n cyllideb dros ddegawd gan Lywodraeth y DU.

"Yr wythnos ddiwethaf fe wnaethon ni gyhoeddi £141.5m yn ychwanegol i lywodraeth leol, gan gynnwys codi'r llawr cyllido fel nad oes yr un awdurdod lleol yn wynebu toriad o fwy na 0.5%.

"Rydym yn bwriadu deddfu i gefnogi cynghorau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau ac i godi arian yn lleol, yn ogystal â gweithio gyda nhw i ryddhau ffynonellau arian sy'n bodoli'n barod."

Mynnodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod grant Llywodraeth Cymru o Lywodraeth y DU wedi tyfu i dros £16bn erbyn 2020.

Ychwanegodd: "Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd bwerau trethu a benthyg y gallan nhw'u defnyddio i gefnogi eu blaenoriaethau yng Nghymru."

Straeon perthnasol