Cynghorydd tref wedi marw ar ôl i'w gar daro wal

Heol Dŵr y Felin Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Dŵr y Felin am tua 14:30 ddydd Llun

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn 89 oed fu farw ar ôl i'w gar adael y ffordd a tharo wal frics yng Nghastell-nedd.

Roedd Dennis Lewis o Gwmtwrch, Abertawe, yn gynghorydd tref yn ardal Ystradgynlais, ac roedd hefyd yn gyn-ddyfarnwr rygbi.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Dŵr y Felin am tua 14:30 brynhawn Llun.

Bu'r ffordd ar gau am rai oriau wrth i Heddlu De Cymru ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion welodd y car Nissan Juke llwyd yn gadael y ffordd i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig