Aled Roberts wedi'i benodi'n Gomisiynydd y Gymraeg

Aled Roberts
Image caption Roedd Aled Roberts yn arweinydd ar Gyngor Wrecsam cyn iddo fod yn Aelod Cynulliad

Y cyn-Aelod Cynulliad, Aled Roberts, fydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg nesaf, gan olynu Meri Huws yn y swydd.

Roedd Mr Roberts yn AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Cymru rhwng 2011 a 2016, a chyn hynny bu'n gynghorydd ac yn arweinydd Cyngor Wrecsam.

Mae'n dod o Rosllannerchrugog, ac fe fynychodd Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd Mr Roberts yn cael ei benodi am gyfnod o saith mlynedd, gan ddechrau yn ei swydd newydd - ble bydd yn ennill cyflog o £95,000 y flwyddyn - ym mis Mawrth.

Fe fydd cyfnod saith mlynedd Ms Huws, sydd wedi bod yn y rôl ers 2012, yn dod i ben bryd hynny.

'Her fawr'

Ar raglen y Post Prynhawn ddydd Mawrth, dywedodd Mr Roberts bod "hybu a hyrwyddo yn fwyfwy pwysig", yn ogystal â'r gwaith o reoleiddio.

Un her bendant meddai oedd gweld "wrth i'r baich o ran rheoleiddio gynyddu, mae'r gyllideb yn aros yr un fath".

Dywedodd y bydd cyfrifoldebau'r comisiynydd yn debygol o newid, gan obeithio gweld mwy o gyfleoedd i hyrwyddo defnydd o'r iaith yn y dyfodol.

"Ond dwi'n siŵr y broblem sydd gennym ni fel cenedl yw heblaw bod 'na fwyfwy ohonom ni'n defnyddio'r iaith yn feunyddiol, ofer fydd yr holl waith yn y pendraw.

"Achos mae'n bwysig bod y bobl ifanc 'ma sy'n dod allan o'n hysgolion ni'n 16 oed yn defnyddio'r iaith ar ôl hynny."

Image caption Mae Meri Huws wedi bod yn rôl Comisiynydd y Gymraeg ers 2012

Dywedodd hefyd ei fod "yn frwd dros yr iaith erioed" a bod "ymgymryd â'r rôl hon yn gyfle cyffrous".

"Dwi'n edrych ymlaen at adeiladu ar waith Meri Huws, a gweithio i wireddu'r targed a nodir yn Cymraeg 2050 a sicrhau y cynhelir hawliau siaradwyr Cymraeg.

"Mae'n her fawr ac rwy'n benderfynol o'i chyflawni - ac i wneud hynny, bydd angen i mi gydweithio'n effeithiol a phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt."

Diddymu'r swydd?

Er y penodiad, mae peth ansicrwydd a fydd y rôl yn parhau am lawer hirach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ffafrio creu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.

Dywedodd Mr Roberts ar y Post Prynhawn "ei fod yn yr hysbyseb [swydd] fod 'na benderfyniad i'w wneud" ac nad oedd yn sicr am ddyfodol y rôl.

Fodd bynnag, ychwanegodd: "Bydd yna drafodaethau, mae'r ymgynghoriad wedi cymryd lle, a bydd rhaid i'r llywodraeth ymateb i hynny, a dwi'n siŵr bydd Meri [Huws] a finnau'n rhan o'r drafodaeth wrth symud ymlaen."

Dywedodd Ms Huws ei bod yn "edrych ymlaen at weithio... i sicrhau pontio esmwyth wrth i mi drosglwyddo'r awenau".

"Mae swydd y Comisiynydd yn un amrywiol a chyffrous, ac mae'n fraint gweithio i gynyddu hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Pob dymuniad da i Aled wrth iddo baratoi i ymgymryd â'r rôl bwysig hon."

'Defnyddio'r pwerau'n llawn'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i benodiad Mr Roberts trwy ddweud ei bod yn hollbwysig bod y rôl yn parhau.

"Does dim synnwyr yng nghynlluniau presennol y llywodraeth i ddiddymu'r swydd a throi'n ôl at hen system wnaeth fethu amddiffyn ein hawliau i'r iaith," meddai Osian Rhys, cadeirydd y mudiad.

"Y peth cyntaf sydd angen i'r comisiynydd newydd ei wneud yw gweithio gyda'r llywodraeth i sicrhau bod pwerau'r mesur presennol yn cael eu defnyddio'n llawn.

"Mae cyfundrefn y safonau yn dechrau gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad ac mae modd eu hymestyn i gwmnïau dŵr, ynni, bws, trên, ffôn a band eang.

"Hyd yma, mae'r llywodraeth wedi gwrthod gwneud hynny - mae angen mynd ati ar unwaith gyda'r comisiynydd newydd i greu a gosod safonau er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg yn y sectorau hollbwysig yma."

'Angen amserlen bendant'

Wrth longyfarch Mr Roberts ar ei rôl newydd, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Sian Gwenllian, mai'r "her i'r comisiynydd newydd fydd sefyll i fyny i'r llywodraeth".

"Gydag Alun Davies ac Eluned Morgan wedi mynd â ni i'r gors ryfedda gyda'u cynlluniau ar gyfer Bil y Gymraeg, a strategaeth heriol i greu miliwn o siaradwyr angen ei gweithredu, yr her i'r comisiynydd newydd fydd sefyll i fyny i'r llywodraeth a sefyll dros siaradwyr Cymraeg," meddai.

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr Iaith Gymraeg Suzy Davies fod y penodiad yn benodiad "synhwyrol" ond wedi rhybuddio bod ganddo frwydr i amddiffyn annibyniaeth y rôl.

Dywedodd Mrs Davies: "Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ffôl i ddiddymu'r rôl a grëwyd ganddynt eu hunain gyda chymorth trawsbleidiol cyn yr etholiad nesaf, fel y mae'n bwriadu ar hyn o bryd, pan fydd Aled yn gallu cyflawni ei rôl statudol lawn yn fwy effeithiol."

Straeon perthnasol