Penodi Gary Taylor-Fletcher yn rheolwr CPD Dinas Bangor

Gary Taylor-Fletcher Image copyright Rex Features

Mae'r cyn-chwaraewr Gary Taylor-Fletcher wedi cael ei benodi'n rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Mae Taylor-Fletcher yn gyn-chwaraewr yn Uwch Gynghrair Lloegr ac wedi chwarae i nifer o glybiau fel Blackpool, Hull a Huddersfield.

Treuliodd 18 mis gyda Bangor yn ystod cyfnod ble orffennodd y tîm yn ail yn Uwch Gynghrair Cymru, a chwarae pêl-droed Ewropeaidd.

Ond fe adawodd Taylor-Fletcher a'r rheolwr Kevin Nicholson dros yr haf wedi i'r clwb golli eu lle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl methu â sicrhau trwydded.

Yn ôl CPD Dinas Bangor, sydd bellach yn chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, maen nhw wedi "gwirioni" â'r penodiad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol