Adran dau: Casnewydd 3-1 Northampton

Casnewydd v Northampton Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jamille Matt sgoriodd yr ail gôl i Casnewydd yn erbyn Northampton

Roedd perfformiad gwych yn yr hanner cyntaf yn ddigon i selio buddugoliaeth i Gasnewydd gartref yn erbyn Northampton nos Fawrth.

Daeth y gôl agoriadol i Gasnewydd wedi pum munud diolch i ergyd Josh Sheehan cyn i Andy Williams unioni'r sgôr chwe munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Jamille Matt ar ôl 31 o funudau i'r tîm cartref.

Daeth trydedd Casnewydd ar ôl 33 munud diolch i ergyd arbennig Padraig Amond heibio i David Cornell yn y gôl.

Pynciau Cysylltiedig