Canolfan Bodnant â 'dim parch' at gyflenwyr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Canolfan fwyd Bodnant â 'dim parch' at gyflenwyr

29 Tachwedd 2018 Diweddarwyd 06:54 GMT

Fe ddangosodd Canolfan Bwyd Cymru Bodnant "ddiffyg parch" i'w cyflenwyr wrth iddyn nhw fynd i'r wal, yn ôl teulu sy'n magu moch.

Mae gweinyddwyr y busnes - sydd wedi'i leoli ym Modnant, Sir Conwy - wedi dod o hyd i brynwr newydd posib.

Bridiau moch prin a thraddodiadol mae Gwyndaf Thomas a'i deulu yn eu magu ar eu fferm yn Llanelian, ger Bae Colwyn.

Fe arwyddon nhw gytundeb i gyflenwi'r ganolfan fwyd ym Modnant yn unig, ond maen nhw'n dweud eu bod nawr yn debygol o golli bron i £17,000.