Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-2 West Bromwich Albion

Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Aeth West Brom ar y blaen trwy beniad Ahmed Hegazi

Cafodd Abertawe ergyd arall i'w gobeithion o gael dyrchafiad yn syth yn ôl i'r Uwch Gynghrair wedi iddyn nhw gael eu trechu gan West Bromwich Albion yn Stadiwm Liberty.

Fe gafodd yr Elyrch ddechrau da i'r gêm, gydag Oli McBurnie yn sgorio ar ôl ymateb gyflymaf wedi i'r golwr arbed ergyd Matt Grimes.

Daeth yr ymwelwyr yn gyfartal o fewn ychydig funudau trwy beniad Craig Dawson, cyn i gôl arall o ben Ahmed Hegazi eu rhoi ar y blaen cyn hanner amser.

Llwyddodd West Brom i amddiffyn yn gadarn trwy'r ail hanner i sicrhau'r triphwynt.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Cymry'n disgyn i'r 11eg safle yn y Bencampwriaeth, bum pwynt o safleoedd y gemau ail-gyfle.