Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 1-0 Southampton

Caerdydd v Southampton Image copyright Getty Images
Image caption Callum paterson sgoriodd unig gôl y gêm wedi 74 o funudau

Mewn gêm hynod o bwysig ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr, llwyddodd Caerdydd i ennill o 1-0 gartref yn erbyn Southampton.

Roedd Caerdydd yn llwyr reoli'r meddiant yn ystod yr hanner cyntaf gydag amddiffyn gwan Southampton yn dangos ei gwendidau.

Fe ddylai'r Adar Gleision fod wedi sgorio fwy nag unwaith ond fe wnaethon nhw wastraffu eu cyfleoedd o flaen y gôl.

Gyda'r glaw yn disgyn yn drwm fe ddechreuodd Caerdydd yr ail hanner yn gryf.

Daeth y gôl wedi camgymeriad amddiffynnol gan Southampton ar ôl 74 munud.

Fe gafodd pas gan Victor Camarasa tuag at Jannik Vestergaard ei chipio gan Callum Paterson a lwyddodd i daro'r bel heibio i Alex McCarthy yn y gôl.

Dyna oedd y bedwaredd fuddugoliaeth mew pum gem gartref i Gaerdydd sydd yn eu codi i safle 14 yn y tabl a thr phwynt yn glir o'r safleoedd cwymp.