Adran dau: Swindon 2-1 Casnewydd

Swindon v Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi disgyn i'r chweched safle yn yr ail adran ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 oddi cartref yn Swindon ddydd Sadwrn.

Llwyddodd Michael Doughty i sgorio'r gôl gyntaf wedi dim ond tri munud, gyda'r tîm cartref yn dechrau'r gêm yn gryf.

Ychydig funudau i mewn i'r ail hanner fe sgoriodd Padraig Amond i unioni'r sgôr.

Roedd Casnewydd yn credu eu bod wedi sicrhau pwynt oddi cartref gwerthfawr nes i Kaiyne Woolrey sgorio gôl hwyr i Swindon i gipio'r tri phwynt.

Pynciau Cysylltiedig