Cwpan Her Ewrop: Gweilch 51-20 Stade Francais

Cory Allen Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Cory Allen ddwy wiath i'r Gweilch yn erbyn Stade Francais

Llwyddodd y Gweilch i gipio pwynt bonws ar ol ennill yn gyfforddus o 51-20 yn erbyn Stade Francais ar Stadiwm Liberty yng Nghwpan Her Ewrop.

Gyda'r ddau dim eisoes wedi sgorio ciciau cosb, Cory Allen sgoriodd cais cyntaf y gem wedi pwysau gan Davies.

Fe gollodd y Gweilch ddau chwaraewr wedi 15 munud o ganlyniad i anafiadau. Nicky Smith a Ma'afu Fia yn gadael y maes, Fia ar gyfer archiliad i'w ben cyn iddo ail ymuno a'r chwarae.

Sgoriodd Yobo i' Stade Francais i ddod ar sgor yn gyfartal cyn i Allen sgorio ei ail gais o'r gem ar ol derbyn pas gan Davies.

Sgoriodd Davies gic gosb cyn yr egwyl cyn i Mailetoa Hingano gael ei anfon i'r gell gosb cyn yr hanner am ladd y bel.

Roedd diffyg disyblaeth Stade Francais yn amlwg ar ddechrau'r ail hanner wrth i Stephane Clement weld cerdyn melyn.

Fe gymerodd y Gweilch fantais o'r dyn ychwanegol drwy sgorio Cais gosb cyn i Arias sgorio cais gysur i'r ymwelwyr.

Gyda munudau'n weddill fe sgoriodd y Gweilch ddwy waith gyda Morgan yn tirio a'r eilydd Watkin yn sicrhau fod y sgor yn croesi'r hanner cant.

Pynciau Cysylltiedig