Tafarn Sinc yn dathlu pen-blwydd ac yn ysbrydoli eraill

Tafarn Sinc
Image caption Grŵp cymunedol sydd nawr yn berchen ar Tafarn Sinc

Llynedd, cafodd trigolion cymuned wledig yn y Preseli anrheg Nadolig arbennig iawn - allweddi drws eu tafarn leol.

Eleni felly mae'r fenter gymunedol, a lwyddodd i godi digon o arian i brynu Tafarn Sinc, yn dathlu ei hail Nadolig.

Wrth iddynt bwyso a mesur llwyddiant a heriau'r flwyddyn gyntaf, mae grwpiau eraill yng Nghymru yn awyddus i ddilyn eu hesiampl.

Yn y gogledd orllewin mae'r syniad o dafarndai cymunedol hefyd wedi cydio yn y dychymyg.

Yn Llŷn ac Eifionydd mae yna ddwy dafarn a dwy fenter gymunedol sydd am eu hadfer.

Mae pentrefi ac ardaloedd sydd wedi gweld cau ysgolion bach, swyddfeydd post a siopau, yn aml yn gweld y dafarn fel un o'r ychydig fannau cwrdd sydd ar ôl.

Fe wnaeth Cymdeithas Tafarn Sinc yn ardal Maenclochog sir Benfro godi dros £300,000 wrth werthu cyfranddaliadau nôl yn Nhachwedd 2017.

Image caption Hefin Wyn: 'Tair blynedd i fenter fel hon sefydlogi'

Dywedodd Hefin Wyn, cadeirydd dros dro y gymdeithas, fod y 12 mis cyntaf wedi bod yn anodd ond yn werth chweil.

"Ma' wedi dod â'r gymuned at ei gilydd, wedd e'n unigolion, yn fudiadau fel y papur bro lleol Clebran, pawb yn barod i helpu'r gymuned a Chymreictod yr ardal," meddai.

"Wedd lot o bobl o bob man yn prynu cyfranddaliadau, eraill yn cyfrannu gyda syniadau a sgiliau, a pan wedd anawsterau yn dod ac wedyn yn dod o hyd i atebion.

"Ma' pethau yn gallu bod yn anodd, yn enwedig nawr, amser hyn o'r flwyddyn, gydag arian yn fwy prin."

Ond mae'n ffyddiog y bydd y fenter yn llwyddiannus, nid yn unig yn ariannol, ond gyda'r nod o fod yn fan canolog i'r gymuned.

Etifeddu llwyddiant

"Ni'n dal i aros am ffigyrau'r flwyddyn gyntaf o fasnachu, byddwn yn gwybod cyn y gwanwyn, ond rydym yn ffyddiog ein bod wedi cadw pennau uwchben y dŵr," ychwanegodd.

Fe wnaethant dderbyn yr allweddi wrth y cyn berchnogion Brian Davies a'i wraig Hafwen fis Tachwedd y llynedd.

"Ni'n ffodus o waith y cyn berchennog Brian a'i deulu, wedd nhw wedi creu brand arbennig Cymreig dros y blynyddoedd ac fe wnaethom ni etifeddu hynny ac mae angen ehangu ar hynny."

Dywedodd ei fod "bach yn rhy gynnar i ddweud o ran ydi menter wedi ysgogi ar deimlad mwy cymunedol neu ysgogi mentrau cymunedol eraill".

Yn ôl Mr Wyn: "Maen nhw'n dweud bod hi'n cymryd rhywbeth fel tair blynedd i fenter fel hon sefydlogi ond does dim rheswm i beidio bod yn ffyddiog gan ein bod wedi etifeddu llwyddiant, ac mae rhywbeth mawr o le os ydym yn methu."

Image caption Daeth dros 50 o bobl i drafod dyfodol Tafarn y Plu mewn cyfarfod cyhoeddus

Draw yn Eifionydd, mae criw Tafarn y Plu yn ymdrechu i godi £195,000 er mwyn prynu'r adeilad yn Llanystumdwy.

Dywedodd Sion Jones eu bod yn gobeithio cyrraedd £80,000 erbyn Ionawr gyda £60,000 eisoes wedi ei godi.

"Wedyn fe allwn wneud cais i gynllun WCVA ar gyfer grant mentrau cymunedol a gallai hynny sicrhau £120,000 yn ychwanegol," meddai.

Mae'r perchnogion presennol am werthu, ond ar hyn o bryd yn cadw'r lle ar agor am dridiau yr wythnos, ac yn cydweithio yn agos gyda'r fenter gymunedol

Dod â'r gymuned yn agosach

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gweld "y broblem sy'n bodoli" o ran cadw tafarndai gwledig ar agor.

"Mae'n costio tua £100,000 i allu prynu tafarn - pwy mewn ardaloedd cefn gwlad sy' â'r fath yna o fusnes i fuddsoddi i fentro - mae'n lot fawr o arian, dio ddim yn bodoli.

"Ar ôl mentro cymaint, o bosib 'di'r elw wedyn ddim yn ddigon i gynnal rhywun."

Dechreuodd y fenter nôl ym mis Gorffennaf. Maen nhw hefyd yn rhoi clod i'r perchnogion presennol Ian a Cath Parri.

"Mae'n dafarn dda, criw da, yn dafarn traddodiadol Cymreig a Chymraeg, maen nhw wedi creu awyrgylch da, ar ôl bod wrthi am 15 o flynyddoedd.

"Mae 'di dod â'r gymuned yn agosach. Ni'n cynnal digwyddiadau yn y Plu er mwyn codi arian ar gyfer y dafarn, ac yna mae pobl dwi ddim yn nabod yn dod ato ni ac isio cynnal digwyddiadau ac am ddefnyddio'r lle.

"Ydi mae wedi dod â'r gymuned yn agosach fyth."

Potensial Tafarn yr Heliwr

Ym Mhen Llŷn, mae sefyllfa'r grŵp sy'n codi agor i ail-agor Tafarn yr Heliwr yn Nefyn ychydig yn wahanol i'r Plu.

"De ni ddim yn prynu busnes yn hytrach adeilad gwag," meddai Elin Angharad Davies, ysgrifennydd a chyfarwyddwr Pwyllgor Tafarn yr Heliwr.

Image copyright Google Maps
Image caption Mae Tafarn yr Heliwr yn Nefyn wedi bod ar gau ers 2009

Mae'r fenter yno wedi gwerthu gwerth £85,000 o gyfranddaliadau i tua 500 o bobl.

Maen nhw felly wedi codi digon i brynu les y dafarn yng nghanol y dref sydd wedi bod ar gau ers 2009.

"Ond mae'r gwaith mawr o'n blaenau," meddai Ms Davies, gan fod angen i'r fenter benderfynu beth yn union yw'r nod.

"Mae rhan o'r cynllun busnes yn cynnwys pethau fel caffi yn ystod y dydd a rhoi cwt cysgu neu bunkhouse ar lawr ucha'r adeilad - gyda hyn i gyd yn costio arian.

"Mae'n eitha' tawel ar hyn o bryd ond unwaith i ni fod wedi prynu mae yna fwy o gyfle gennym ni i drio am grantiau, 'de ni mewn sefyllfa fwy cryf.

"Felly ar hyn o bryd mae yna lot o waith papur o'n blaenau, mae'n swnio'n boring ond mae'n bwysig ac mae pobl yn teimlo'n bositif ac mae yna lot o botensial i'r lle."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol