'Gobaith' o achub cynllun Archif Ddarlledu Genedlaethol

llyfrgell gen

Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal yr wythnos nesa rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol i drafod adolygiad o'r cynllun £9m ar gyfer sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol.

Mae amheuaeth wedi bod am y cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rai wythnosau yn ôl nad oeddynt am gyfrannu £1m tuag at y prosiect.

Ond dywed y dyn sydd wedi ei benodi fel pennaeth newydd y Llyfrgell, Pedr ap Llwyd, ei fod yn obeithiol y bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael sêl bendith y Llywodraeth.

Ar raglen y Post Prynhawn Radio Cymru, dywedodd Mr ap Llwyd, sy'n ymgymryd â'i swydd newydd fel prif weithredwr ym mis Ebrill, eu bod wedi ymateb i'r pryderon a gafodd eu codi.

Yn ôl Mr ap Llwyd, sy'n ddirprwy brif weithredwr ar hyn o bryd, ar ôl eu hadolygiad maen nhw'n cydnabod bod yna rai ffyrdd o wneud rhai pethau'n wahanol.

Dywedodd nad oes amheuaeth am gefnogaeth yr Arglwydd Elis-Thomas, y gweinidog diwylliant, i'r cynllun ond ei fod wedi mynegi "pryder ynglŷn â rhai agweddau o'r cynllun."

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Dywed Pedr ap Llwyd ei fod yn obeithiol am y trafodaethau

"Mi ydan ni wedyn ers hynny wedi mynd nôl at y cynllun ac edrych yn benodol ar yr agweddau hynny oedd yn pryderu'r Gweinidog ac mae'n dda gennyf ddweud bod ganddo ni gyfarfod i drafod y cynllun yma ymhellach.

"Dwi yn gobeithio y gallwn ni ddwyn perswâd ar y llywodraeth ein bod wedi edrych o ddifri ar y pryderon a chynnig datrysiadau."

Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas ddatgan mewn llythyr ei fod "yn amharod i ymrwymo i'r £1m o gyllid cyfalaf y gofynnwyd amdano" ar gyfer y cynllun yn ei ffurf bresennol.

Roedd y Llyfrgell Genedlaethol hefyd wedi gobeithio sicrhau £5m o arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri tuag at y cynllun, ond byddi hynny'n anoddach heb gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru.

Er mai rhaglenni BBC Cymru fyddai mwyafrif cynnwys yr archif arfaethedig, roedd hefyd disgwyl iddi gynnwys deunydd o raglenni S4C ac ITV Cymru.

Byddai'r cynllun yn caniatáu i archif presennol BBC Cymru gael ei gadw pan fydd y darlledwr yn gadael ei bencadlys presennol yng Nghaerdydd, ac fe fyddai'r cyhoedd yn medru gweld y deunydd yn ddigidol mewn canolfannau gwylio arbennig yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin a Wrecsam.

Straeon perthnasol