Ymwelwyr annisgwyl yn gwarchod amgylchedd yr arfordir

Defaid
Image caption Mae'r defaid yn rheoli tyfiant gwair ar y twyni

Ffansi Dolig 'chydig yn wahanol eleni - be am wyliau glan y môr?

Dyna'r anrheg anarferol sydd wedi ei roi i 46 o ddefaid mynydd Cymreig yn y gorllewin.

Ond fe fydd y defaid - defaid Nelson neu ddefaid Cymreig Morgannwg - yn gorfod gweithio am eu bywoliaeth ym Mharc Gwledig Pen-bre, ger Llanelli.

Eglurodd Dr Simeon Jones, Swyddog Cadwraeth gyda Chyngor Sir Gâr, bydd yr anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig wrth warchod bio-amrywiaeth y twyni tywod ger traeth Cefn Sidan.

"Maen nhw'n bwyta'r glaswelltau sy'n tyfu'n gyflym ac yn helpu blodau'r twyni tywod i ffynnu, ac mae'r pori hefyd yn cadw'r twyni tywod yn symudol," meddai.

Tir naturiol

"Mae'r twyni yn rhan bwysig o'r tirlun ac yn chwarae rhan wrth ddiogelu amgylchedd."

Yn ôl Dr Jones mae'r defaid yn cymryd at y borfa yn rhwydd ac mae'n copïo dull o ffermio oedd yn gyffredin cyn yr oes fecanyddol.

"Dyma'r tro cyntaf i'r Parc drio hwn, ond mae'r tir yn addas iawn iddynt gan eu bod wedi arfer pori mewn amgylchiadau anodd ar y mynydd.

"Nawr maen nhw'n pori tir naturiol sydd heb gael unrhyw wrtaith arno, mae'n eu siwtio nhw'n well."

Image copyright Science Photo Library
Image caption Dr Simeon Jones: 'Arferiad cyn yr oes fecanyddol'

Yn y pendraw mae cadw'r gwair dan reolaeth yn golygu fod y blodau yn ffynnu ac yn eu tro darparu bwyd ar gyfer llu o bryfed a chwilod.

"Ac yn y gadwyn fwyd hefyd mae'r ystlum pedol mwyaf - sy'n anifail prin ac yn bwydo yn y twyni," meddai Dr Jones.

Mae'r warchodfa natur leol yn cydweithio gyda'r Parc ar y prosiect sy'n derbyn arian gan lywodraeth Cymru.

Corff arall sy'n rhan o'r cynllun yw Pont Cymru, corff sydd am adfer porfeydd naturiol.

Dywedodd Emma Douglas o Pont Cymru mai'r Ddafad Gymreig Morgannwg yw'r mwyaf o ran maint o'r bridiau defaid mynydd Cymreig.

"Y gred yw eu bod o dras hynafol iawn, mae bridiau traddodiadol yn wydn iawn ac maen nhw angen yr amrywiaeth planighion sy ar gael yn y twyni, mae'r berffaith iddynt.

"Mae'r rhain yn ddefaid caled ac yn ddelfrydol i bori glaswelltir garw.

"Hefyd bydd carnau'r defaid yn creu ponciau a chlytiau tywodlyd bychain sy'n bwysig ar gyfer infertebrata'n nythu..."

Image caption 'Pori yn rhagori': Dyma'r tro cyntaf i'r Parc Gwleidg drio arbrawf o'r fath

Bydd yn rhaid symud y defaid unwaith eto, unwaith i'r planhigion a pherlysiau ddechrau tyfu go iawn, ym mis Chwefror a Mawrth.

Dywed Dr Jones fod o'n hen arferiad symud anifeiliaid o'r tir uchel i'r arfordir yn y gaeaf.

"Os edrychwch ar yr arfordir o fan hyn i Gydweli fe allwch weld nifer o ffermydd ar yr arfordir.

"Cyn yr oes fecanyddol, dyma oedd yr arfer.

"Mae'r twyni yn llefydd sych ar y cyfan hyd yn oed yn y gaeaf, ac er eu bod yn oer byddai'r tir yn sych dan draed.

"Felly mae modd cadw degau o anifeiliaid, cynnwys gwaretheg a defaid ar y tywod heb i'r tir droi yn gae o fwd fel byddai'n digwydd ar y tir uwch. "

Image caption Bydd y defaid yn dychwelyd i'r ucheldiroedd cyn y tymor ŵyna

Pynciau Cysylltiedig