Geiriau coll byd natur

Titw Tomos Las Image copyright Bethan Vaughan Davies
Image caption Titw Tomos Las: Ydyn ni'n raddol yn colli gafael ar adnabod hyd yn oed adar fel hyn?

Beth ddigwyddodd i'r bwrdd natur yn ein ysgolion? Beth ddigwyddodd i swyn wyau'r fwyalchen yn ei nyth? Beth ddigwyddodd i hwyl plethu cadwyni llygad y dydd neu gasglu blodau'r maes i'w gwasgu mewn llyfr lloffion?

Y naturiaethwr Duncan Brown sy'n gofyn ydyn ni'n colli ein hymwybyddiaeth o'r creaduriaid a'r planhigion o'n cwmpas - a'n geirfa i'w disgrifio?


Mae mwy o lyfrau adnabod bywyd gwyllt ar gael heddiw nag y bu erioed, ond y to hŷn mae'n debyg sydd yn eu prynu.

Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn dal ei thir trwy holl gynni economaidd ein cyfnod, â'i phrosiect Llên Natur gyda 1,700 o aelodau ar ei dudalen Facebook, Cymuned Llên Natur, erbyn hyn.

Mae adarwyr o safon yn gallu dilyn eu crefft yn Gymraeg fel na allent erioed. Yn amlwg dydi crebachu a thrai syml ddim yn ddigon i esbonio beth yn union sy'n digwydd.

Mae geiriau am natur yn ieithoedd y Gorllewin yn dioddef ymosodiadau gan brosesau fel trefoli cynyddol, caethiwed i'r tŷ, y cyfryngau cymdeithasol, teledu a chan brinhau didostur rhywogaethau fu unwaith mor gyfarwydd i bobl.

Ydy'r ymosodiad hwn yn wahanol yn achos ieithoedd llai eu defnydd fel y Gymraeg?

Mae'r geiriau, os ydynt yn cael eu trosglwyddo o gwbl i'r to ifanc, yn pasio i'r genhedlaeth nesaf trwy addysg ffurfiol yn bennaf. Mae'r argraff yn gryf nad ydy mwyafrif geiriau natur yn cael eu harddel gan rai yn eu harddegau o gwbl ar ôl i athrawon gyflwyno rhywfaint ohonyn nhw yn y blynyddoedd cynradd.

Efallai y bydd yr enghreifftiau canlynol yn dangos hyn - ac weithiau rhai enillion...


Cyffylog

Image copyright Wicipedia
Image caption Cyffylog: cyfarwydd i Dafydd ap Gwilym ac i helwyr Oes Fictoria, llai cyfarwydd i ni efallai?

Roedd hwn yn enw ar yr aderyn a gofir fwyaf yn yr ymadrodd bachog "nid wrth ei big y mae prynu cyffylog". Pwy sy'n adnabod cyffylog y dyddiau hyn - maen nhw'n ein cyrraedd o hyd o'r Cyfandir pob gaeaf ond mae nhw bellach yn brin iawn yn eu cynefin corsiog yn yr haf.

Canodd Dafydd ap Gwilym am y cyffylog yn ôl yn y 15fed ganrif. Ond mae'r enw yn llawer hŷn - mae'r un enw yn y Llydaweg, sydd yn golygu bod y gair yn bodoli tua'r 6ed ganrif pan oedd y Frythoneg ar fin newid i Gymraeg cynnar, a'r 'Cymry' (o Gernyw gan fwyaf) yn mudo i sefydlu gwlad y Llydäwr.

Gallwn briodoli trai yr enw i sawl ffactor: i dranc arferiad y buddugion o'i hela i'w fwyta, i drai yr aderyn ei hun yn ei gynefin arferol, ac i ddinodedd felly yr enw heb wrthrych cyfarwydd i gydio wrtho.


Caws llyffant

Roedd dau fath o ffwng tan yn ddiweddar - madarch (neu fasharwms) bwytadwy a chaws llyffant gwenwynig (toadstools). Mae hi'n arwyddocaol fy mod yn teimlo bod rhaid ychwanegu'r gair Saesneg i sicrhau bod y darllenydd yn medru dilyn!

Image caption Siantrelau, boledau a chapiau llaeth - mae mwy i 'gaws llyffant' nag sy'n amlwg. Ac enwau Cymraeg i bob un erbyn hyn.

Gan fod diddordeb cynyddol yn yr organebau hyn - ac enwau fel siantrel, boled a cap llaeth yn cael eu harddel yn gynyddol dan ddylanwad traddodiadau Ewrop na chafodd eu harddel erioed yng Nghymru tan y dadeni ffyngaidd diweddar, oni allwn weld yma golli ac ennill yn rhedeg law yn llaw?


Glöyn byw a Llyffant

Rhaglenni i blant gan S4C sydd wedi peri i pili-pala a broga ddisodli glöyn byw a llyffant yng ngeirfa plant a phobl ifanc yn y gogledd. Digwyddodd hyn hefyd yn achos y cyntaf, dan ddylanwad arddangosfa boblogaidd ym Môn, sef y Pili-palas, ac yn yr ail, fel canlyniad i amrywiadau lleol yn yr eirfa am frog a toad (llyffant, llyffant melyn, llyffant du, broga) heb gysondeb llwyr am ba enw sy'n golygu pa rywogaeth o ardal i ardal.

Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: beth sydd bwysicaf - bod plentyn yn ymwybodol o lyffant a glöyn o gwbl, bod nhw'n ymwybodol ohonynt yn Gymraeg, ynteu eu bod nhw yn ymwybodol ohonynt yn eu tafodiaeth leol draddodiadol? Mi gewch CHI osod y rhestr hon yn ôl eich blaenoriaethau personol!


Madfall, Galopi wirion, Genau goeg a Modriwilen

Image copyright Alun Williams
Image caption Madfall, genau goeg neu modriwilen, yn ôl eich ardal.

Dyma enwau diddorol ar y creaduriaid sydd yn ateb i'r enwau Lladinaidd Lacerta neu Triturus (mae enwau gwyddonol yn handi weithiau!). Mae nhw'n bodoli bellach yng ngof rhai pobl o oedran arbennig yn unig, yn ôl eu hardal a'u cymuned.


Coch y berllan a Glas y dorlan

Image copyright Bethan Vaughan Davies
Image caption Enw swynol Coch y Berllan

Dau enw o'r cyfnod Rhamantaidd 'dwi'n dyfalu. Mae eu swyn i'r glust Gymraeg yn hafal â swyn y ddau aderyn ei hunain - hyd yn oed yn fwy weithiau. Mae amryw yn gwybod ac yn hoffi'r enwau yn angerddol gydag ond ymwybyddiaeth gwan iawn o'r adar eu hunain!

Dwi'n amau nad ydy'r enwau hyn yn hen iawn (mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn olrhain glas y dorlan ddim pellach yn ôl na'r flwyddyn 1707). Wrth i ni geisio codi terminoleg natur i'r oes wyddonol mae enwau o'r math yn sefyll yn anghyffyrddus yn y lecsicon rhyngwladol - mae teulu'r glas y dorlan (genws Alcedo) yn fawr, a dim pob pob sy'n las! Dyna un rheswm pam y bu'n rhaid bathu enw arall ar y tylwyth egsotig ehangach, sef y Pysgotwyr, ond cadwyd wrth gwrs "glas y dorlan" ar ein aderyn ni!


Silidons

"Sil y don" ydi etymoleg poblogaidd y term tafodieithol hwn (sîl yw mân bysgotach - fry neu minnows mae'n debyg). Dyma enw o'm plentyndod yn Arfon. Enw hiraethus ydyw bellach, yn perthyn i'r to hŷn sy'n cofio ymdrybaeddu mewn pyllau bas afonydd fel y Gwyrfai a'r Seiont ym mhumdegau a chwedegau eu plentyndod, ond sydd prin yn mynd ar gyfyl afon erbyn hyn! Efallai bod ambell bysgotwr yn cadw fflam y term hwn ynghyn ac yn fyw.


Pres gloyw a Llenni crychlyd

Image copyright Luned Meredydd
Image caption Gwyfyn y llenni crychlyd: un o'r myrdd o enwau gwyfynod bachog newydd sbon danlli!

Colledion yn sicr, ond ennillion yma a thraw. Dyma enillwyr go iawn. Ni wn am unrhyw air cynhenid traddodiadol am y cannoedd (miloedd hyd yn oed) o greaduriaid amrywiol, lliwgar hynny o blith teulu mawr y gwyfynod. Ond bellach mae pob un yng Nghymru wedi cael eu bedyddio yn y Gymraeg - a dyma ddau ohonyn nhw.

Mae nhw'n teilyngu eu henwau, gobeitho y cytunwch. Rhyw ddydd efallai fydd Cymry'r dyfodol yn gyfarwydd â gwyfynod fel y llenni crychlyd a'r pres gloyw, wrth eu henwau Cymraeg, fel mae nhw'n gyfarwydd â'r Titw Tomos Las heddiw!

Wel, gallwn ni ond gobeithio...


Hefyd o ddiddordeb: