Blogio tra'n ddall
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Blogio 'wedi'n helpu mewn cymaint o ffyrdd'

25 Rhagfyr 2018 Diweddarwyd 10:26 GMT

Mae dynes sydd â nam golwg yn galw am fwy o hwb i ysgrifennu blogiau a dyddiaduron wrth ymdrin ag iechyd meddwl.

Mae Elin Williams, 20 oed o Eglwys-bach, yn ysgrifennu blog sydd bellach â dros 8,000 o ddilynwyr.

Yn ôl Elin mae'r broses o ysgrifennu a blogio'n gyhoeddus wedi rhoi "rhyddhad" a nawr mae hi'n meddwl y dylai rhagor o bobl gael eu hannog i wneud yr un fath er mwyn helpu eu hiechyd meddwl.