'Dwyieithrwydd ddim yn anfantais i blant â Syndrom Down'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Yn ôl Rebecca Ward, sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect, dyma'r ymchwil cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig.

Dydy plant sydd â Syndrom Down ddim dan anfantais o fod yn ddwyieithog, a hynny'n groes i'r cysyniad 'traddodiadol', yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'r ymchwil wedi asesu datblygiad ieithyddol plant gyda Syndrom Down sy'n siarad Cymraeg a Saesneg gyda rhai sy'n siarad Saesneg yn unig.

Mae eu casgliadau cychwynnol yn awgrymu bod sgiliau Saesneg y plant yn debyg.

Yn ôl un teulu o Gwm Rhymni, doedd yna ddim llawer o wybodaeth ar gael wrth iddyn nhw benderfynu ym mha iaith i addysgu eu merch chwech oed.

'Sgiliau cystal'

Ers dwy flynedd mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn casglu tystiolaeth gan 32 o deuluoedd, gan gynnwys 14 ble mae Cymraeg a Saesneg yn cael eu siarad.

Yn ôl Rebecca Ward, sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect, dyma'r ymchwil cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig.

"Mae'n dod o'r cysyniad bod plant efo anableddau datblygiadol, er enghraifft awtistiaeth neu Syndrom Down... bod anawsterau gydag iaith yn mynd i gynyddu os maen nhw'n siarad dwy iaith," meddai.

"Felly os yw un iaith yn anodd yna byddai dwy iaith yn rhy anodd. Felly o'n ni mo'yn ymchwilio i'r datblygiad iaith a gweld sut oedd plant yn dysgu Cymraeg a Saesneg i gymharu â phlant gyda Syndrom Down oedd dim ond yn siarad Saesneg i weld os oedd hynna'n wir... ac oedden ni'n gweld bod e ddim.

"Ni'n ffeindio bod y plant 'efo Syndrom Down sy'n ddwyieithog 'efo sgiliau Saesneg sydd gystal â phlant 'efo Syndrom Down sydd ddim ond yn siarad Saesneg."

Image caption Ben a Natalie Curtis gydag Arthur ac Elinor

Roedd teulu Ben a Natalie Curtis o Benpedairheol yng Nghwm Rhymni ymhlith y rheiny i gyfrannu i'r gwaith ymchwil.

Mae ganddyn nhw fab o'r enw Arthur sy'n bedair oed, a'i merch Elinor sy'n chwech. Mae gan Elinor Syndrom Down.

"Roedden ni'n awyddus i fagu ein plant yn ddwyieithog ac roedd nifer o ffactorau eraill i ystyried o ran Elinor wrth gwrs," meddai Ben.

"Ond ar ôl meddwl amdanyn nhw roedden ni wedi dod i'r casgliad roedd e'n rhywbeth o'n ni eisiau 'neud.

"Fi jyst yn siarad â'r plant yn Gymraeg... mae fy ngwraig yn siarad â nhw'n Saesneg ond mae hi'n deall eitha' lot o Gymraeg hefyd.

"Mae'r plant yn gwneud eitha' lot o code-switching ac maen nhw'n dweud brawddegau gyda lot o eiriau Cymraeg a Saesneg wedi cymysgu. Maen nhw'n deall y ddwy iaith - mae'n hollol naturiol iddyn nhw."

'Gyda hi ers y crud'

Mae Elinor yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Penalltau ac yn ôl y Dirprwy Bennaeth Lowri Owen mae'r dulliau dysgu iaith o fudd i Elinor.

"Dwi'n credu bod ysgolion Cymraeg y de yn tueddu i wneud lot o 'ddrilio' fel rhan o'r broses achos bod cymaint o ddysgwyr gyda ni... a dwi'n meddwl bod hynna wedi helpu Elinor yn ramadegol yn benna'," meddai.

"Dwi'n meddwl bod y ffaith bod hi'n siarad dwy iaith yn y cartre' yn gwneud gwahaniaeth achos mae'r Gymraeg a'r Saesneg wedi bod gyda hi ers y crud."

Dywedodd Cymdeithas Syndrom Down mai "gofynion unigol y plentyn a'r teulu" sy'n bwysig a bod pobl sy'n gweithio yn y maes weithiau'n "betrusgar" ynglŷn â pha gyngor i roi i deuluoedd.

"Fe fydd yr ymchwil yma sydd ar raddfa fach yn cynnig mwy o wybodaeth gobeithio am brofiadau teuluoedd a rhoi anogaeth i rieni sydd yn dewis dwyieithrwydd. Ac felly rydyn ni'n croesawu'r ymchwil."

Mae Natalie Curtis, mam Elinor, yn hyderus eu bod wedi gwneud y penderfyniad iawn i'w teulu nhw.

"Dyma'r dewis amlwg i ni," meddai.

"Fe fyddai wedi bod yn neis i gael mwy o dystiolaeth ar y dechrau ein bod ni'n gwneud y peth iawn yn hytrach na jyst greddf. Ond mae wedi gweithio'n iawn."