Dyn anabl yn ymbil i 'gael ei fywyd yn ôl'

Tim White
Image caption Mae Tim White wedi bod yng nghartref gofal Sŵn y Môr ym Mhort Talbot ers dros flwyddyn

Mae dyn anabl yn ei 30au yn ymbil am "gael ei fywyd yn ôl" wedi i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ei osod mewn cartref henoed sydd yn bell o'i deulu a ffrindiau.

Cafodd Tim White ei symud i ganolfan gofal Sŵn y Môr ym Mhort Talbot am bythefnos yn wreiddiol wedi i'w symptomau parlys ymledol (MS) waethygu.

Dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae Mr White yn dal ar restr aros ar gyfer cartref anabledd, ac mae wedi gorfod gwerthu'i gartref er mwyn talu am y gofal.

"Helpwch fi," meddai. "Dwi angen cael fy mywyd yn ôl a fy nheulu a ffrindiau."

Dywedodd y cyngor ei bod yn gweithio i ganfod lloches arall i Mr White sy'n agosach at adref.

Teimlo'n unig

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru (2014) yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar awdurdodau lleol i adnabod oedolion dan risg ac i ddarparu eiriolwyr annibynnol ar eu cyfer.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae nifer yr oedolion dan risg wedi cynyddu o 14,784 i 18,049 yn ôl ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru o ganlyniad i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ond dros yr un cyfnod mae arolwg gan Age Cymru yn awgrymu bod nifer yr eiriolwyr llawn amser yng Nghymru wedi bron haneru o 87 yn 2016 i 44 y llynedd.

Image caption "Y realiti yw bod pethau'n wael," meddai Fiona McDonald o Gymdeithas MS Cymru

Heb rywun i siarad drostyn nhw, gall unigolion bregus deimlo'n unig ac ynysig, meddai Fiona McDonald o gymdeithas MS Cymru.

Dywedodd: "Roedd y ddeddf i fod i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu darparu, ond y realiti yw bod pethau'n wael.

"Nid yw'r oedolion yn cael gwybod am wasanaethau eirioli yn eu hardaloedd, ac maen nhw hefyd yn gorfod talu am wasanaethau felly mae'n gwbl amhriodol."

Yn 37 oed, Tim White yw'r ieuengaf o 91 o drigolion yng Nghanolfan Sŵn y Môr.

'Swnian'

Dywedodd ei fod yn derbyn gofal da yno ac yn teimlo'n ddiogel, ond yn methu siarad gyda phobl o'i oed ei hun a hefyd ei frawd ym Mhen-y-bont.

"Fe fyddai'n dal i swnian ar y cyngor i weld os fedran nhw gael rhywle i mi yn ardal Pen-y-bont," ychwanegodd.

"Dydw i ddim am fod yma ac yn gwario fy holl arian yn aros yma."

Image caption Cartref gofal Sŵn y Môr ym Mhort Talbot

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sicrhau fod gan unigolion eiriolwyr annibynnol yn rhan ganolog o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol gwrdd â'u cyfrifoldeb cyfreithiol.

"Mae gan Arolygiaeth Gofal Cymru y grym i adolygu'r modd y mae cynghorau yn cyflawni'u gwaith, a'r hawl i weithredu er mwyn sicrhau eu bod yn ateb y gofynion cyfreithiol."