Pro14: Gweilch 19 - 12 Scarlets

Luke Morgan yn sgorio cais Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Luke Morgan yn tirio wrth sicrhau buddugoliaeth i'r Gweilch

Mae record wael ddiweddar y Gweilch yn erbyn y Scarlets ar ben ar ôl iddyn nhw guro'r hen elynion 19 - 12 yn Stadiwm Liberty.

Cyn dydd Sadwrn roedden nhw wedi colli 10 gêm ddarbi yn olynol.

Fe sgoriodd Luke Morgan unig gais y gêm - ei seithfed o'r tymor - i'r tîm cartref ac fe ddaeth 14 o'u pwyntiau trwy gicio Sam Davies.

Daeth pwyntiau'r Scarlets - oedd naw pwynt i chwech ar y blaen ar yr egwyl - wedi pedair cic gosb a gafodd eu sgorio gan Rhys Patchell a Dan Jones.

Roedd yna ergyd bellach i'r gwrthwynebwyr pan gafodd Jake Ball anaf i'w ysgwydd.

Pynciau Cysylltiedig