Cyhuddo dyn 51 oed o lofruddio dynes yn Nhrealaw

Lana Jayne Owen Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Roedd Lana Jayne Owen yn 46 oed

Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi ei gyhuddo o lofruddio Lana Jayne Owen, 46 oed o Drealaw.

Cafodd Philip George Andrews, o Heol Miskin, Trealaw, ei arestio brynhawn Mercher 19 Rhagfyr.

Cafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth ac fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Gwener.

Bydd Mr Andrews yn parhau yn y ddalfa tan iddo ymddangos o flaen y llys yn y flwyddyn newydd.

Image copyright Google
Image caption Mae Philip George Andrews o Miskin Road, Trealaw

Dywedodd teulu Ms Owen: "Rydyn ni fel teulu wedi cael ein llorio gan y newyddion ofnadwy,"

"Roedd ganddi galon fawr, yn llawn egni ac yn barod i wneud unrhywbeth i unrhywun... roedd hi'n fam, chwaer, nith ac yn ffrind ardderchog a bydd colled ar ei hol."

Nid yw Heddlu'r De yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.