Gwrthdrawiad 'difrifol' ar yr A499 ger Pwllheli

A499 Image copyright Google

Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i wrthdrawiad "difrifol" ar yr A499 ger Pwllheli.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad am tua 19:00 ddydd Gwener.

Mae dau griw tân o Abersoch a Phwllheli yn ymateb i'r gwrthdrawiad tu allan i wersyll Pwylaidd Penrhos.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd y bydd y ffordd ar gau am "gryn dipyn o amser", a bod tri cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal os yn bosib.

Pynciau Cysylltiedig