Y Bencampwriaeth: Hull 3 - 2 Abertawe

Graham Potter Image copyright Getty Images
Image caption Siom i Graham Potter a'i dîm wedi iddyn nhw fethu sawl cyfle i ymestyn eu mantais dros Hull yn yr hanner cyntaf

Mae Abertawe wedi colli cyfle i guro tair gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth er iddyn nhw fod â mantais dros Hull am y 70 munud cyntaf.

Aeth yr Elyrch ar y blaen wedi gôl gynnar gan Wilfred Bony, ac roedd yna ryddhad i'w cefnogwyr wedi 39 munud pan wnaeth Erwin Mulder arbed cic o'r smotyn gan Jarrod Bowen.

Ond fe ddaeth Bowen â'r gwrthwynebwyr yn gyfartal wedi 71 munud ar ôl gwneud yn fawr o gyfle prin hyd hynny i sgorio.

Yna gyda llai na chwarter awr i fynd, aeth y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf wedi gôl Tommy Elphick.

Ac fe sgoriodd Bowen am yr eildro i ymestyn mantais 3-1 wedi 80 munud.

Roedd yna lygedyn o obaith bod yr Elyrch am daro'n ôl ac anelu at gêm gyfartal pan sgoriodd yr eilydd, Bersant Celina wedi 88 munud.

Ond ofer fu'r ymdrechion wedi hynny a thîm Nigel Atkins aeth â'r pwyntiau gyda sgôr terfynol o 3-2.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn 12fed safle'r tabl.