Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 1-5 Manchester United

Victor Camarasa yn sgorio yn erbyn Manchester United Image copyright Reuters
Image caption Victor Camarasa yn sgorio unig gôl Caerdydd yn erbyn Manchester United

Cafodd Caerdydd grasfa yn Stadiwm Caerdydd wrth i'w cyn-reolwr, Ole Gunnar Solskjaer ddychwelyd i'r ddinas fel rheolwr dros dro Manchester United.

Fe roddodd Marcus Rashford y gwrthwynebwyr ar y blaen wedi tri munud gyda cic rydd gampus, cyn i Ander Herrera ymestyn y fantais.

Daeth unig gôl yr Adar Gleision gyda chic gosb Victor Camarasa wedi 38 munud.

Ond yn fuan wedi hynny roedd Anthony Martial wedi gwneud hi'n 1-3 a dyna oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Jesse Lingard oedd sgoriwr ddwy gôl yr ail hanner - trwy gic gosb ddadleuol wedi 57 munud ar ôl iddo ef ei hun cael ei faglu yn y cwrt cosbi, a'r ail wedi 90 munud.

Roedd yn fuddugoliaeth gyfforddus i'r ymwelwyr yng ngêm gyntaf Solskjaer wrth y llyw wedi diswyddiad Jose Mourinho.

Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Neil Warnock yn 17eg safle'r tabl gyda 14 o bwyntiau.

Image copyright Getty Images
Image caption Ole Gunnar Solskjaer a Neil Warnock