Adran Dau: Lincoln 3 - 2 Casnewydd

Lincoln City v Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Casnewydd yn ildio ail gôl Lincoln Harry Anderson

Mae Casnewydd wedi llithro i wythfed safle Adran Dau ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Lincoln.

Fe ildiodd yr Alltudion ddwy gôl - y gyntaf gan John Akinde a'r ail gan Harry Anderson - o fewn saith munud wedi'r gic gyntaf.

Roedd yna lygedyn o obaith wedi i Padraig Almond rwydo funud cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Ond fe darodd Lincoln yn ôl wedi'r egwyl gyda thrydedd gôl gan Tom Pett, cyn i gamgymeriad gan amddiffyn y tîm cartref weld Almond yn sgorio ei ail gôl yntau o'r gêm i'r ymwelwyr.

Mae Lincoln wedi ymestyn y fantais dros MK Dons yn yr ail safle i bedwar pwynt.