Cau capel Cymraeg Weston Rhyn yn Sir Amwythig

Weston Rhyn Image copyright Gwyn Evans
Image caption Cafodd capel presennol Weston Rhyn ei godi yn 1871

Bydd aelodau capel Cymraeg Weston Rhyn yn Sir Amwythig yn dechrau ar gyfnod newydd o addoli yn y flwyddyn newydd wrth i ddrysau'r capel gau am y tro diwethaf.

Ddydd Sul cafodd oedfa arbennig ei chynnal i "ddiolch a dathlu yr addoli" sydd wedi ei gynnal yn y capel ers diwedd y ddeunawfed ganrif.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gwyn Evans, Ysgrifennydd a blaenor yng nghapel Weston Rhyn

Roedd y gwasanaeth hefyd yn gyfle i edrych ymlaen at y cyfnod newydd sy'n wynebu'r aelodau.

Yn y flwyddyn newydd bydd y capel yn rhan o Eglwys Gymraeg Unedig Seion yng Nglyn Ceiriog ond mae'r aelodau hefyd yn bwriadu cynnal gwasanaethau yn nhai ei gilydd yn ystod yr wythnos.

'Rhan o rywbeth byw'

Ysgrifennydd y capel yw Gwyn Evans ac wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Teimladau cymysg sy gen i, wrth gwrs - dwi wedi bod yn dod i'r capel ers dros ddeugain mlynedd ond wedi dweud hynny rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o fenter newydd.

"Flwyddyn yn ôl cafodd Eglwys Gymraeg Unedig Seion yng Nghlyn Ceiriog ei sefydlu a mae'n braf teimlo y byddwn ni fel enwad yn rhan o rywbeth byw.

"Mae 'na bobl ifanc yn rhan o'r gynulleidfa yno ac mae 'na Ysgol Sul ac mae hynny'n braf.

"Bydd hi'n braf hefyd parhau â'r gymdeithas Gristnogol yn Western Rhyn yn ystod yr wythnos drwy gynnal digwyddiad neu oedfa yng nghartrefi ein gilydd. Mae'n gyfnod gwahanol ac yn gyfnod newydd."

Image copyright Gwyn Evans
Image caption 12 aelod sydd gan y capel, gyda 10 ohonynt yn mynychu gwasanaethau'n rheolaidd

Taith oddeutu chwarter awr yw Glyn Ceiriog yn y car o Western Rhyn a "gan fod pawb yn dod i'r capel mewn car dyw'r newid ddim yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth," ychwanegodd Mr Evans.

"Rhyw ddeuddeg o aelodau ydan ni bellach ac mae rhyw 10 wedi bod yn dod ar y Sul. Teimlo roeddan ni ein bod yn gwario yn helaeth ar gynnal a chadw yr adeilad pan y gallai'r arian gael ei roi i elusen.

"A chan bod yna fywyd newydd yng Nglyn Ceiriog fe bleidleisiom yn unfrydol i ymuno â nhw - dyma'r amser iawn i wneud dwi'n meddwl."

Mae aelodau'r capel yn dod o ardal Western Rhyn ac ardaloedd cyfagos fel Y Waun, Gobowen a Hen-goed.

Carreg goffa T. Osborne Roberts

Edward Morris o Langollen a fu'n gyfrifol am ddechrau addoliad Cymraeg yn yr ardal. Wedi iddo ymgartefu yn Weston Rhyn dechreuodd wahodd pobl i'w dŷ i addoli ar y Sul.

Image copyright Gwyn Evans

Yn 1811 cafodd y capel cyntaf ei adeiladu ac mae cofnodion yn dangos fod yna gryn wrthwynebiad gan yr Eglwyswyr i'r datblygiad yn sgil twf ymneilltuaeth. Roedd Thomas Charles o'r Bala yn cymryd rhan yn y gwasanaeth agoriadol.

Cafodd y capel presennol ei godi yn 1871. Roedd yna gynnydd cyson yn nifer yr aelodau wedi diwygiad 1859.

Mae'r adeilad yn un trawiadol ac yr oedd meindwr dramatig yn rhan o'r adeilad hyd ganol yr 1980au. Roedd y meindwr yn fwy trawiadol gan nad oes tŵr ar eglwys y pentref ar draws y ffordd. Yn yr wythdegau bu'n rhaid dymchwel y tŵr wedi iddo gael ei daro gan fellten.

Y tu allan i'r capel mae carreg goffa i T. Osborne Roberts gan iddo gael ei eni yn Weston Rhyn a 'Pennant' - un o'r tonau a ysgrifennodd y cerddor fydd yn cloi y gwasanaeth ddydd Sul.

Ychwanegodd Gwyn Evans: "Ry'n yn gobeithio bydd yna ddiddordeb gan yr Eglwys Bresbyteraidd neu gymdeithas hanes lleol yn y trysorau.

"Mi fydd yn rhyfedd peidio mynd i'r capel ar y Sul ond wedi dweud hynny ry'n yn edrych ymlaen at ddechrau newydd."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol