Gwrthdrawiad Pwllheli: Dyn 20 oed yn y llys

A499 Image copyright Google
Image caption Bu farw Rebecca Louise yn y gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog nos Wener

Mae dyn 20 oed o Gricieth wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae Osian Hicks-Thomas hefyd wedi ei gyhuddo o yrru o dan ddylanwad alcohol, peidio â stopio wedi gwrthdrawiad a pheidio rhoi gwybodaeth am y gwrthdrawiad.

Mae'n dilyn digwyddiad ar yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog tua 19:00 nos Wener.

Bu farw Rebecca Louise Edwards - nyrs 34 oed o Lanberis - yn y fan a'r lle.

Image copyright Llun teulu
Image caption Bu farw Rebecca Louise Edwards yn y fan a'r lle

Mewn gwrandawiad wnaeth bara llai na phum munud yn Llys Ynadon Llandudno fore Llun, fe siaradodd Mr Hicks-Thomas i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 14 Ionawr.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol