1,300 yn nofio ym môr oer Porthcawl fore Nadolig

Published
image copyrightWales news service

Fe wnaeth dros 1,300 o bobl nofio ym môr oer Porthcawl fore Nadolig yn un o'r digwyddiadau mwyaf o'i fath yn y DU.

Mae'r digwyddiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 54 eleni, ac roedd nofwyr o mor bell ag Awstralia a Dubai yn cymryd rhan.

Roedd y digwyddiad eleni yn codi arian i elusen Prostate Cymru, gyda nifer yn gwisgo gwisg ffansi.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Lucy Jones, mai dyma'r nifer fwyaf i gymryd rhan yn hanes y digwyddiad.

image copyrightWales news service
image copyright@IanGreenman/Twitter
image copyrightWales news service

Pynciau Cysylltiedig