Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Aston Villa

Bony yn methu cic o'r smotyn Image copyright Getty Images
Image caption Methodd Wilfried Bony gic o'r smotyn yn y munud olaf

Fe fethodd Wilfried Bony gic o'r smotyn yn y munud olaf i Abertawe, wrth i'r Elyrch golli 1-0 yn erbyn Aston Villa yn Stadiwm Liberty.

Er i'r tîm cartref gael y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf, rhoddodd Conor Hourihane yr ymwelwyr ar y blaen wedi'r egwyl.

Cafodd Abertawe gic o'r smotyn wedi 90 munud o'r chwarae wedi gwaith da gan Nathan Dyer.

Ond fe fethodd yr eilydd Bony gyda'i ergyd, gyda golwr Villa, Orjan Nyland, yn arbed yn wych.

Yn dilyn ail golled yn olynol, mae Abertawe yn disgyn i'r 13eg safle yn y Bencampwriaeth.