Ail Adran Lloegr: Casnewydd 1-4 Forest Green Rovers

George Williams Image copyright Getty Images
Image caption Mae George Williams wedi ennill saith cap dros Gymru

Fe sgoriodd y Cymro George Williams deirgwaith i Forest Green Rovers wrth i Gasnewydd golli'n drwm yn yr Ail Adran.

Unwaith eto fe ddechreuodd tîm Mike Flynn yn araf gyda'r Cymro chwim, Williams, yn rhwydo i'r ymwelwyr wedi llai na phum munud o chwarae.

Er i Tahvon Campbell roi Forest Green 2-1 ar y blaen, fe lwyddodd Padraig Amond i rwydo o'r smotyn i Gasnewydd yn hwyr yn yr hanner cyntaf.

Ond yn dilyn cerdyn coch Dan Butler yn fuan wedi'r egwyl i Gasnewydd, fe sgoriodd Williams ddwywaith eto i ymestyn mantais yr ymwelwyr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn disgyn tri lle i 11eg yn y tabl.