Cymro yn rhan o ddarlithoedd y Sefydliad Brenhinol

Dr Arwyn Edwards Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Mae Dr Arwyn Edwards yn uwch-ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)

Bydd gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth yn ymddangos ar gyfres Darlithoedd Nadolig 2018 y Sefydliad Brenhinol, a fydd yn cael ei darlledu ar BBC 4 rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Mae Dr Arwyn Edwards, uwch-ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), wedi'i ddewis i arddangos techneg chwyldroadol ar gyfer dilyniannu DNA y mae wedi'i datblygu ar gyfer gweithio mewn amgylcheddau eithafol.

"Pwy ydw i?" yw thema Darlithoedd Nadolig 2018, a byddant yn cael eu cyflwyno gan yr anthropolegydd biolegol, awdur a darlledwr, yr Athro Alice Roberts, a'r arbenigwr mewn geneteg, yr Athro Aoife McLysaght.

Gyda chymorth y myfyriwr doethuriaeth Andre Soares, bydd Dr Edwards yn dilyniannu bacteria meicrobiom person yn y drydedd ddarlith a fydd yn cael ei darlledu ar BBC4 am 20:00 ddydd Wener 28 Rhagfyr.

Newid hinsawdd

Dywedodd Dr Edwards: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy ngwahodd i gymryd rhan yng nghyfres Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol eleni.

"Dyma un o uchafbwyntiau rhaglenni teledu ein teulu ni dros gyfnod yr ŵyl, ac mae'n gyfle gwych i fod yn rhan o draddodiad mawr cyfathrebu gwyddoniaeth, a chyflwyno sgiliau dilyniannu DNA i bobl yn eu hystafelloedd byw ar draws y DU," meddai.

Ar y cyd gyda Oxford Nanopore, mae Dr Edwards wedi datblygu labordy dilyniannu DNA cludadwy sy'n ffitio mewn sach deithio fechan, a gellir ei defnyddio unrhyw le yn y byd.

Mae ei waith maes yn canolbwyntio ar ddilyniannu DNA mewn microbau a geir ar rewlifoedd a llenni iâ, wrth i wyddonwyr geisio deall sut maent yn ymateb i newid hinsawdd.

Yn ddiweddar dychwelodd wedi cyfnod yn gweithio ar Len Iâ'r Ynys Las. Mae hefyd wedi gweithio yn Svalbard, cyfres o ynysoedd yn yr Uwch-Arctig.

Yn ôl Dr Edwards, mae'r chwyldro mewn technoleg dilyniannu DNA cludadwy wedi dod yn sgil y camau breision sydd wedi eu gwneud ym maes genomeg ddynol.

Fodd bynnag, mae'n dadlau bod y microbau mwyaf diddorol i ficrobiolegwyr yn aml yn y mannau anoddaf i'w cyrraedd.

'Potensial mawr'

"Mae'r gallu i ddilyniannu DNA yn gyflym, yn rhad ac yn unrhyw le, a chan fwy neu lai unrhyw un, yn trawsnewid y ffordd ni'n gweithio ym maes bioleg," meddai Dr Edwards.

"Mae potensial mawr i'r dechnoleg hon gael ei defnyddio ar gyfer gwneud diagnosis o heintiau, deall sut mae llygredd yn effeithio ar yr amgylchedd, ac mewn darganfyddiadau posibl newydd, er enghraifft pa ficrobau sydd yn y mannau anoddaf i'w cyrraedd allai fod o ddefnydd ar gyfer creu gwrthfiotigau newydd.

"Mae angen i ni ddeall amrywiaeth genomeg a geneteg microbau er mwyn gwneud hyn oll," meddai.

Image caption Bu Dr Arwyn Edwards yn rhan o ddatblygu labordy dilyniannu DNA cludadwy sy'n ffitio mewn sach deithio

Ym mis Mai 2018, bu Dr Edwards a'i gydweithwyr yn dilyniannu DNA yn fyw ar raglen Today BBC Radio 4.

Fe gwblhaodd y tîm y dasg o ddadansoddi sampl o bridd o ardd y cyflwynydd Justin Webb a chyflwyno'r canlyniadau yn fyw ar y rhaglen o fewn dwy awr.

Sefydlwyd y Sefydliad Brenhinol yn 1799 gyda'r bwriad o gyflwyno technolegau newydd ac addysgu'r cyhoedd am wyddoniaeth.