Uwch Gynghrair Lloegr: Caerlŷr 0-1 Caerdydd

Neil Etheridge Image copyright Reuters
Image caption Llwyddodd Neil Etheridge i amddiffyn y rhwyd saith gwaith

Roedd hi'n fuddugoliaeth funud olaf ddramatig i Gaerdydd oddi cartref yn erbyn Caerlŷr yn King Power Stadium.

Sgoriodd Víctor Camarasa unig gôl y gêm yn ystod amser ychwanegol yr ornest yn erbyn Caerlŷr.

Yn ogystal, llwyddodd gôl-geidwad Caerdydd, Neil Etheridge, i amddiffyn y rhwyd rhag cic o'r smotyn gan James Maddison.

Roedd hi'n driphwynt annisgwyl i'r Adar Gleision yn eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref y tymor hwn.