Pro14: Scarlets 5-34 Gleision

Gareth Anscombe Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Gareth Anscombe gais a chicio 14 pwynt ar gyfer Gleision Caerdydd

Roedd hi'n fuddugoliaeth ysgubol i'r ymwelwyr ym Mharc y Scarlets, wrth i Gleision Caerdydd ennill 34-5 yn erbyn y Scarlets.

Dyma'r bumed golled yn olynol i'r Scarlets yn y Pro14, er gwaetha' cais clodwiw gan Johnny McNicholl yng nghwarter awr cynta'r gêm.

Aeth ochr ddisgybledig yr ymwelwyr o nerth i nerth yn ystod yr ail hanner, gyda Gareth Anscombe yn profi'i hun yn giciwr medrus yn sgorio 14 pwynt i'r Gleision.

Ychwanegodd anafiadau'r canolwr Kieron Fonotia a'r blaenasgellwr James Davies at drafferthion y Scarlets - yn ogystal â phenderfyniad Leigh Halfpenny cyn y gic gyntaf i beidio ag ail-ymuno â'r tîm.

Roedd Halfpenny wedi bwriadu dychwelyd i chwarae nos Sadwrn am y tro cyntaf wedi iddo gael cyfergyd mewn gêm yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd.

Pynciau Cysylltiedig