Adran Dau: Casnewydd 0-0 Crawley

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Padraig Amond yn agos at sgorio ddwywaith i Gasnewydd

Roedd hi'n gêm ddi-sgôr wrth i Crawley herio Casnewydd yn Rodney Parade.

Er i Padraig Amond ddod yn agos at sgorio ddwywaith i Gasnewydd, roedd Glenn Morris yn y gôl i Crawley wedi llwyddo i ddal ei dir.

Yn ôl rheolwr Casnewydd, Mike Flynn, roedd yna "nifer o bethau positif i weithio arnyn nhw" er gwaetha'r canlyniad.

"Ond fe gollon ni ormod o gyfleoedd yn yr ail hanner," meddai.