Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-2 Wigan

Joe Garner Wigan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Joe Garner ddwy gôl i Wigan

Mae Abertawe yn codi i'r 12fed safle yn nhabl y Bencampwriaeth yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Wigan yn Stadiwm Liberty.

O fewn y ddeg munud gyntaf, sgoriodd Joe Garner gic o'r smotyn i Wigan - wedi i Wayne Routledge wthio Kal Naismith i'r llawr.

Daeth yr ail gôl gan Garner i Wigan yn fuan wrth ei chwt er mawr siom i'r cefnogwyr lleol.

Fodd bynnag, yn yr ail hanner llithrodd Dan Burns y bêl i'w rwyd ei hun gan roi gôl annisgwyl i'r Elyrch.

Sgoriodd y chwaraewr canol cae Mike van der Hoorn gôl i Abertawe yn ystod 10 munud ola'r gêm i sicrhau pwynt yr un i'r ddau dîm.