Pro14: Dreigiau 23-22 Gweilch

Jarred Rosser Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Jarred Rosser unig gais yr hanner cyntaf i'r Dreigiau

Y Dreigiau ddaeth i'r brig mewn gêm agos yn erbyn y Gweilch yn Rodney Parade.

Hon yw'r bedwaredd fuddugoliaeth y tymor hwn i'r Dreigiau, a fu ar y blaen wedi Jarred Rosser sgorio unig gais yr hanner cyntaf i'r tîm cartref.

Er i gapten y Gweilch, Justin Tipuric, sgorio cais a chodi'r sgôr i'r ymwelwyr, cael a chael oedd hi wrth i'r ddau dîm weld eu siâr o giciau cosb.

Sgoriodd Sam Davies 17 pwynt gyda'i droed i'r ymwelwyr, ond munud cyn diwedd y gêm, fe fethodd un gic i gipio'r fuddugoliaeth.

Pynciau Cysylltiedig