Ymdrech Cymro i achub ymfudwyr angen cymorth 'ar frys'

Gweithwyr Sea Watch Image copyright Chris Grodotzki / Sea-Watch.org

Mae ymdrech i achub 32 o bobl ym Môr y Canoldir angen cefnogaeth ar frys, yn ôl ymgyrchwr o Gymru.

Fe aeth Robin Jenkins, o Fro Morgannwg, i wirfoddoli ar long achub Sea-Watch sydd yn ceisio rhoi cymorth i ymfudwyr oddi ar arfordir Malta.

Dywedodd yr ymgyrchwyr nad oes ganddynt "unrhyw le i fynd" ar ôl i sawl porthladd Ewropeaidd wrthod caniatâd iddyn nhw lanio.

Mae galwadau cynyddol ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd. Mae'r Swyddfa Dramor wedi cael cais am ymateb.

Image copyright Robin Jenkins
Image caption Mae Robin Jenkins wedi bod yn rhan o ymdrechion eraill i achub ymfudwyr ym Môr y Canoldir

'Perygl gwirioneddol'

Fe ddisgrifiodd Mr Jenkins y broses o achub yr ymfudwyr ar 22 Rhagfyr ar wefan cymdeithasol, gan nodi bod eu cwch rwber yn "gwbl anaddas" ar gyfer hwylio.

Mae AC Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, a'r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, yn galw am gymorth ar frys i'r rheini ar fwrdd y llong achub.

"Mae e' bellach mewn perygl gwirioneddol ynghyd â dwsinau o bobl eraill, gan gynnwys plant," meddai Ms Wood.

Dywedodd UNCHR, asiantaeth ymfudwyr y Cenhedloedd Unedig, eu bod nhw'n parhau i bryderu am y sefyllfa.